Cartref

Cymdeithas Cymru ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yw WAPA, sef corff ambarél ar gyfer cwmnïau celfyddydau perfformio proffesiynol yng Nghymru, yn cynrychioli theatr, opera a dawns.

Beth mae CCPC yn ei Wneud

Prif swyddogaeth CCPC yw hyrwyddo’r celfyddydau perfformio proffesiynol drwy ddod â mwy o sylw i’r sector mewn cymaint o ffyrdd ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd cyffredinol gyda siaradwyr o safon uchel, trefnu seminarau ar bynciau penodol, cynhyrchu papurau cefndir ar faterion polisi pwysig, a chyfrannu at ymgynghoriadau cenedlaethol, rhanbarthol a phenodol i’r sector.

In 2002 WAPA won the Stage newspaper’s special award for Outstanding Contribution to Regional Theatre at the Barclays Theatre Award ceremony at the Royal Court Theatre. The presentation was made to the WAPA Chair Chris Ryde by actress Nicola McAuliffe.

In 2002 WAPA won the Stage newspaper’s special award for Outstanding Contribution to Regional Theatre at the Barclays Theatre Award ceremony at the Royal Court Theatre. The presentation was made to the WAPA Chair Chris Ryde by actress Nicola McAuliffe.

Mae hyn wedi mynd yn hollbwysig yn sgîl sefydlu Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’r Gymdeithas wedi bod wrthi’n rhoi gwybodaeth i wleidyddion ers i waith y Cynulliad ddechrau. Bydd CCPC yn cwrdd yn rheolaidd wyneb-yn-wyneb â Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae bellach yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel llais y celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Cydnabyddwyd llwyddiant CCPC (WAPA) wrth gynrychioli’r celfyddydau proffesiynol yng Nghymru yng Ngwobrau Theatr Barclays yn 2002 a gynhaliwyd yn y Royal Court, Llundain.  Enillodd y Gymdeithas Wobr Arbennig Papur Newydd y Stage am Gyfraniad Eithriadol i Theatr Ranbarthol.

Mae CCPC wedi mynd yn ddarparydd hyfforddiant o bwys hefyd, ac mae’n trefnu cyrsiau i ateb anghenion aelodau, yn cynnwys: Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf, Cyllid, Rheoli Straen.

Ethos

Sut mae’r celfyddydau perfformio’n cysylltu â gweddill Cymru?

Mae’r celfyddydau perfformio proffesiynol:

  • yn dathlu amrywiaeth creadigol Cymru a’i phobl
  • yn adlewyrchu Cymru hyderus a dynamig i Ewrop ac i weddill y Byd
  • yn meithrin iechyd a lles pobl Cymru
  • yn cyflawni nodau ac amcanion polisi’r Cynulliad Cenedlaethol
  • yn cyfrannu’n sylweddol tuag at ddatblygiad economaidd Cymru drwy greu swyddi a denu cwmnïau i fuddsoddi yng Nghymru

Pam ddylai Cymru fuddsoddi yn y celfyddydau perfformio proffesiynol?

Am fod y celfyddydau proffesiynol:

  • yn dod â buddiannau i bobl Cymru. Maent yn newid bywydau pobl, yn lledu gorwelion eu hamgylchedd cymdeithasol, yn ehangu ac yn difyrru, yn arwain at hunan-ddatblygiad ac yn cryfhau hyder.
  • maent yn dod â buddiannau i gymunedau lleol. Mae’r celfyddydau’n gwneud pobl yn sensitif i newid; yn agor llygaid i bosibiliadau gwahanol; yn herio rhagdybiaethau ac yn ysgogi arloesedd. Bydd cwmnïau proffesiynol yn gweithio gyda llawer o grwpiau, gan hyrwyddo dinasyddiaeth ymhlith y cynulleidfaoedd sy’n cyfranogi a’r artistiaid eu hunain. Maent yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, pobl ag anawsterau dysgu, pobl ddigartref, ffoaduriaid, carcharorion ac eraill sydd, drwy gymryd rhan, yn magu ymdeimlad o werth a hunan-fynegiant.
  • yn dangos Cymru ar ei mwyaf cynhwysol. Mae mwy na 60% o oedolion yng Nghymru yn mynychu gweithgareddau celfyddydol neu gymryd rhan ynddynt. Mae 21.6% o oedolion yng Nghymru yn mynychu drama unwaith neu fwy y flwyddyn.
  • yn dod â buddiannau i economi Cymru. Mae’r trosiant blynyddol a gynhyrchir gan y celfyddydau a’r diwydiannau diwylliannol yn £1.1 biliwn yn ôl yr Astudiaeth Effaith Economaidd.
  • yn gwella addysg, hyfforddiant, sgiliau a chyfleoedd gwaith. Mae perfformiadau a gweithdai mewn ysgolion chanolfannau cymuned yn cyflwyno plant a phobl ifanc i’r celfyddydau. Mae mwy na 100,000 o blant yn profi celfyddyd fyw drwy berfformiadau a thrwy gymryd rhan.

Sut mae CCPC yn Helpu?

Mae aelodaeth yn agored i unrhywun â diddordeb proffesiynol yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru, yn unigolion a sefydliadau. Mae aelodau’n elwa ar amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys:

  • digwyddiadau hyfforddi wedi eu noddi
  • y wybodaeth hanfodol ddiweddaraf, ar sail reolaidd
  • cynhadledd flynyddol breswyl
  • cyfle i glywed siaradwyr allweddol a chyfrannu i’r ddadl genedlaethol
  • y cyfle i gwrdd â chydweithwyr, rhwydweithio, a rhannu gwybodaeth ac arfer da gyda nhw.

Mae tanysgrifiad yn para o Ebrill i Ebrill, ac mae’r cyfraddau presennol fel a ganlyn:

Aelodaeth unigol £15.00
Sefydliadau â throsiant o LAI NA £50,000 £ 30.00
Sefydliadau â throsiant RHWNG £50,000 a £75,000 £ 65.00
Sefydliadau â throsiant RHWNG £75,000 a £100,000 £130.00
Sefydliadau â throsiant MWY NA £100,000 £210.00

Ceir proffil o’r aelodaeth bresennol yma.

Cysylltu â CCPC

Gellir cysylltu â CCPC fel a ganlyn:

Drwy’r post yn:

BLWCH SP 443 Caerdydd CF11 9YT

Drwy e-bost yn: waparts@hotmail.com

Chris Ryde (Cadeirydd) O2920 397971, or ebost: cryde@cardiff-equity.org.uk

Patti Wallis (Gweinyddwr) ebost: patti.wallis@ntlworld.com