Mae CCPC ar asiant sy’n cynrychioli feniws ac yn cyd-drefnu teithiau sef Creu Cymru yn cyfarfod unwaith yn rhagor yn yr Hydref i adeiladu ar waith defnyddiol a gychwynnwyd mewn cynhadledd ar y cyd y flwyddyn ddiwethaf. Gobeithir cynnal digwyddiad tebyg fis Rhagfyr nesaf. Mae’r ddau sefydliad ar hyn o bryd yn aros am gyhoeddiad o’r canlyniadau ymchwil a wnaed gan Cynulleidfaoedd Cymru (a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru) ynglŷn a chynulleidfaoedd drama. Disgwylir y bydd oblygiadau yn codi ar gyfer y ddau grŵp o argymhellion yn yr adroddiad, a bydd y gynhadledd ym mis Rhagfyr yn gyfle i drafod mentrau eraill a fyddai’n bosib cydweithio arnynt.