Ysgrifennodd CCPC i gefnogi menter Llywodraeth y Cynulliad drwy ddeddfwriaeth israddol a phwerau newydd i gyflwyno cefnogaeth gorchmynnol i ddarpariaeth celf a diwylliant gan awdurdodau lleol.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori am natur y ddeddfwriaeth. Bydd y broses hon yn dod i ben ar y 4ydd o Fedi. Yn gyffredinol beth bynnag, mae’r symudiad hwn yn cael ei groesawu oherwydd dylai arwain at gefnogaeth well i’r awdurdodau lleol.