Cymdeithas Cymru ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yw WAPA, sef corff ambarél ar gyfer cwmnïau celfyddydau perfformio proffesiynol yng Nghymru, yn cynrychioli theatr, opera a dawns.
![]() |
Prif swyddogaeth WAPA yw hyrwyddo'r celfyddydau perfformio proffesiynol drwy ddod â mwy o sylw i'r sector mewn cymaint o ffyrdd ag sy'n bosibl. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfarfodydd cyffredinol gyda siaradwyr o safon uchel, trefnu seminarau ar bynciau penodol, cynhyrchu papurau cefndir ar faterion polisi pwysig, a chyfrannu at ymgynghoriadau cenedlaethol, rhanbarthol a phenodol i'r sector. Mae hyn wedi mynd yn hollbwysig yn sgîl sefydlu Cynulliad Cenedlaethol, ac mae'r Gymdeithas wedi bod wrthi'n rhoi gwybodaeth i wleidyddion ers i waith y Cynulliad ddechrau. Bydd WAPA yn cwrdd yn rheolaidd wyneb-yn-wyneb â Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae bellach yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel llais y celfyddydau perfformio yng Nghymru.
Mae WAPA wedi mynd yn ddarparydd hyfforddiant o bwys hefyd, ac mae'n trefnu cyrsiau i ateb anghenion aelodau, yn cynnwys: Iechyd a Diogelwch, Cymorth Cyntaf, Cyllid, Rheoli Straen.
Gair am WAPAFfurfiwyd y Gymdeithas ym 1982. Cyn hynny, roedd sefydliad o'r enw Cynhadledd Sefydlog Canolfannau Celfyddydau a Chwmnïau Cymru yn bod. Siop siarad oedd hyn yn bennaf, a theimlid fod angen grwp gwahanol, mwy pwrpasol. Sefydlwyd WAPA, gan hynny, â'r nod benodol o ymgyrchu a dadlau ar ran ei aelodau sy'n cynnwys bron pob cwmni cynhyrchu proffesiynol yng Nghymru. Rhedir y Gymdeithas gan Bwyllgor Gwaith gwirfoddol o wyth, a etholir o blith yr aelodaeth bob dwy flynedd. Mae gan aelodau presennol y Pwyllgor Gwaith feysydd cyfrifoldeb penodol, sef:
![]() |
Cwmni Theatr Arad Goch |
CHRIS RYDE (Equity)
Chair
GILLIAN DALE (Community
Dance Wales)
MAI JONES (Sgript Cymru) Chair,
Welsh Language Sub Committee
SANDRA JONES: (Spectacle
Theatre)
JANET HUXTABLE (Theatr Na'Nog) Treasurer
JANEK ALEXANDER (Chapter Arts Centre)
VAL HILL: (Hijinx
Theatre)
MARGARET JONES: (Sherman Theatre)
Yr unig bwyllgor parhaol yw Is-bwyllgor yr Iaith Gymraeg. Y Cadeirydd presennol yw Mai Jones. Mae pob gweithgor neu is-bwyllgor arall yn rhai ad hoc.
Mae aelodaeth yn agored i unrhywun â diddordeb proffesiynol yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru, yn unigolion a sefydliadau. Mae aelodau'n elwa ar amrywiaeth o wasanaethau, yn cynnwys:
Mae tanysgrifiad yn para o Ebrill i Ebrill, ac mae'r cyfraddau presennol fel a ganlyn:
|
Aelodaeth unigol |
£15.00 |
|
Sefydliadau â throsiant o LAI NA £50,000 |
£30.00 |
|
Sefydliadau â throsiant RHWNG £50,000 a £75,000 |
£65.00 |
|
Sefydliadau â throsiant RHWNG £75,000 a £100,000 |
£130.00 |
|
Sefydliadau â throsiant MWY NA £100,000 |
£210.00 |
Ceir proffil o'r aelodaeth bresennol yma.
Newyddion CCPC
Cliciwch y botwm newyddion am wybodaeth ynglyn a'r materion cyfredol, digwyddiadau, cyfarfodydd, cyfleoedd hyfforddi ayyb. Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru yn reolaidd
![]() |
Gellir cael gafael ar wybodaeth am gyrsiau a digwyddiadau WAPA a chynyrchiadau a theithiau aelodau WAPA yn adran CALENDR gwefan WAPA.
Gellir cysylltu â WAPA fel a ganlyn:
Drwy'r post yn:
BLWCH SP 443 Caerdydd CF11 9YT
Drwy e-bost yn: waparts@hotmail.com
Chris Ryde (Chair) O2920 397971, or email: cryde@cardiff-equity.org.uk
Patti
Wallis (Administrator) email: patti.wallis@ntlworld.com